Cyflwyniad
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau i'r cyfundrefnau cynllunio a phrynu gorfodol yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r newidiadau allweddol sydd am gael ei cyflwyno yn 2022.
Click here to read this article in English.
Bil Cydgrynhoi Cynllunio
Disgwylir i fil cydgrynhoi cynllunio gael ei gyflwyno yn ystod tymor presennol y Senedd (h.y. cyn 2026) i ddelio â materion a godwyd yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn 2018 ar gyfraith cynllunio yng Nghymru. Argymhellodd yr adroddiad y dylid creu côd cynllunio newydd yng Nghymru sy'n gynhwysfawr ond yn symlach.
Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ym mis Medi 2021 ac roedd yn cynnwys ymrwymiad i ddod â'r gyfraith ar gynllunio a'r amgylchedd hanesyddol i mewn i statudau sengl.
Bydd y bil cydgrynhoi cynllunio yn cynnwys agweddau o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Cynllunio 2008. Nod y bil yw symleiddio a chydgrynhoi cyfraith cynllunio Cymru mewn un lle felly ni fydd unrhyw newid yn sylwedd y gyfraith. Fodd bynnag, bydd newidiadau i rifo'r adrannau y bydd rhai pobl yn gyfarwydd â nhw a bydd canllawiau perthnasol yn cael eu diweddaru i gyfeirio at y rhifo newydd.
Prynu gorfodol yng Nghymru
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o ymatebion i’w hymgynghoriad ar ‘Diwygiadau i Bwerau a Gweithdrefnau Prynu Gorfodol’.
Cynigiodd yr ymgynghoriad ddiwygio deddfau i foderneiddio'r pwerau a gweithdrefnau prynu gorfodol yng Nghymru, a deddfau eilaidd i symleiddio prosesau ymholiadau prynu gorfodol a’r broses ysgrifenedig.
Yn dilyn ymatebion i'r ymgynghoriad, penderfynodd Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i Ddeddf Caffael Tir 1981 a chyhoeddi llawlyfr gorchymyn prynu gorfodol (GPG), gyda'r nod o ddarparu arweiniad ar gyfer y drefn GPG yng Nghymru. Cyhoeddwyd y llawlyfr GPG gyntaf ar 23 Mawrth 2021.
Yn fwy diweddar, ar 6 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gofrestr penderfyniadau GPG. Mae'r gofrestr GPG yn cynnwys manylion y math o GPG, y pŵer prynu gorfodol, enw'r awdurdod a theitl y GPG sy'n dyddio'n ôl i 2012. Fodd bynnag, nid yw'r gofrestr yn cynnwys copïau llawn o orchmynion prynu gorfodol.
Newidiadau i dirwedd GPG yn 2022
Yn ystod y misoedd nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno newidiadau pellach i orchmynion prynu gorfodol.
Bydd Rheolau Prynu Gorfodol (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2010 a Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 yn cael eu disodli gan set newydd o reolau ymholi GPG.
Dyma rai o'r newidiadau allweddol:
- dylid cyflwyno datganiadau achos o fewn 10 wythnos i'r dyddiad perthnasol (ar hyn o bryd 6 wythnos yw’r cyfnod perthnasol) lle nad oes cyfarfod cyhoeddus; a
- bydd y dyddiad cau o 5 wythnos i Weinidogion Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) (a gymerodd drosodd swyddogaethau PINS Cymru ym mis Hydref 2021) i roi rhybudd ysgrifenedig o ymholiad yn cael ei ymestyn gan hyd at 3 wythnos.
Disgwylir i'r llawlyfr GPG hefyd gael ei ddisodli gan ail argraffiad a fydd yn darparu canllawiau wedi'u diweddaru ar reolau ymholiadau GPG a'r gweithdrefnau sylwadau ysgrifenedig. Yn ogystal bydd newidiadau i asesiadau sydd yn gysylltiedig i ddyletswyddau cydraddoldeb y sector gyhoeddus.
Bydd yr ail argraffiad yn diweddaru arferion ynglŷn a chytundebau gyda ymgymerwyr statudol gan gynnwys materion megis cyfeiriadau e-bost ar hysbysiadau statudol a gweithredu datganiadau breinio.
Disgwylir cylchlythyr GPG newydd yn gynnar yn 2022 a fydd yn cynnwys y rheolau GPG wedi'u diweddaru a chyfeiriadau at y fersiwn newydd o'r llawlyfr GPG. Bydd hefyd yn cynnwys manylion cyswllt wedi'u diweddaru ar gyfer PCAC.
Ym mis Mawrth 2022, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal digwyddiad rhithwir i awdurdodau lleol ar y llawlyfr GPG.
Dadansoddiad
Ers datganoli mae'r cyfundrefnau cynllunio a phrynu gorfodol yng Nghymru wedi gwyro'n raddol o'r sefyllfa yn Lloegr. Mae hyn wedi arwain at sefyllfa eithaf cymhleth o ran y deddfau a'r canllawiau sy'n berthnasol yng Nghymru. Mae’r newidiadau diweddar a’r rhai sydd ar y ffordd i gynllunio, deddfwriaeth, rheolau a chanllawiau prynu gorfodol yng Nghymru yn ymgais i wneud y sefyllfa yng. Nghymru yn symlach. Dylai datblygwyr ac awdurdodau lleol yng Nghymru fod yn ymwybodol o'r newidiadau hyn oherwydd gallent effeithio ar prosiectau yng Nghymru.
Sut gall Burges Salmon helpu?
Mae gennym brofiad helaeth o gynllunio Cymru a materion prynu gorfodol ac rydym yn cynghori cleientiaid yn rheolaidd ar sut y gall newidiadau i'r drefn cynllunio a phrynu gorfodol yng Nghymru effeithio ar brosiectau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw un o'r materion yn yr erthygl hon, mae croeso i chi gysylltu ag Elizabeth Dunn.